Mae Classic FM wedi cyhoeddi bod y Cymro, Aled Jones yn dychwelyd i’r orsaf i gyflwyno sioe 3 awr ar fore Sul.
Bydd y sioe newydd yn dechrau ar Fawrth 3 ac mae’n disodli Laurence Llewelyn-Bowen, sydd yn symud i gyflwyno’r sioe am 12pm.
Daeth Aled Jones i amlygrwydd gyda’i fersiwn o’r gân allan o ‘The Snowman’, ‘Walking in the Air’.
Ers hynny, bu’n cyflwyno Good Morning Sunday ar Radio 2 a’r rhaglen deledu ‘Songs of Praise’.
Dechreuodd gyflwyno’r rhaglen foreuol Daybreak ar ITV haf diwethaf.
Dywedodd mewn datganiad: “Rydw i wirioneddol wrth fy modd yn cael ymuno â’r tîm gorau yn Classic FM. Mae radio dydd Sul yn agos at fy nghalon a fedra i ddim aros i lywio’i phrif raglen benwythnos.
“Mi fydda i’n chwarae rhai o’m hoff gerddoriaeth yn ogystal â’ch hoff gerddoriaeth chi, felly dowch i fod yn rhan o’r cyfan o ddechra mis Mawrth. Mae hi wir yn teimlo fel pe bawn i wedi dod adra.”
Dywedodd Richard Park, cyfarwyddwr darlledu chwaer-gwmni Classic FM, Global Radio: “Mae Aled yn ddarlledwr heb ei ail ac mae hyn, yn ogystal â’r ffaith ei fod wedi’i drwytho ym myd cerddoriaeth glasurol, yn ei wneud yn aelod newydd o deulu Classic FM y mae croeso mawr iddo.”