Al Lewis a'r band
Bydd gŵyl gerddorol Celtic Connections yn gorffen yn Glasgow heddiw ar ddiwedd 18 niwrnod o gyngherddau, ceilidhs, gweithdai ac arddangosfeydd er mwyn dathlu cerddoriaeth y gwledydd Celtaidd a’r holl gysylltiadau rhyngwladol

Mae’r ŵyl yn rhoi cyfle i gerddorion gwahanol iawn gyd-weithio a chyd- berfformio.

Cafodd Al Lewis rannu llwyfan efo’r gantores werin Tanita Tikaram.

Roedd y grŵp gwerin ‘Taran’, sy’n defnyddio offerynnau traddodiadol fel y crwth a’r pibgorn mewn cyd-destun cyfoes, yn perfformio efo dau o chwaraewyr pibau mwyaf cyfoes yr Alban, sef Ross Ainslie a Jarlath Henderson.

Roedd y grŵp gwerin ‘Yn y Fan’ yno hefyd yn perfformio efo Robin a Bina Williamson, sy’n plethu cerddoriaeth gwerin Prydain, y gwledydd Celtaidd ac Asia yn eu caneuon.

Mae dros ddwy fil o gerddorion wedi bod yn Glasgow ers canol Ionawr yn dathlu cerddoriaeth Geltaidd ac yn perfformio.

Yn ystod y dydd heddiw, bydd Band Pibau Heddlu Strathclyde, sef y band pibau sifil hynaf yn y byd yn perfformio am y tro olaf.

Mae heddluoedd yr Alban yn uno i greu un llu cenedlaethol ar 1 Ebrill ac o’r herwydd bydd y band fel y mae ar hyn o bryd yn dirwyn i ben.