Cafodd dyn ei saethu efo gwn trydan Taser y tu allan i Balas Buckingham toc wedi hanner dydd y prynhawn yma.

Mae Heddlu Llundain wedi gwrthod cyhoeddi rhagor o fanylion ar hyn o bryd ac mae llefarydd ar ran y Palas wedi dweud mai mater i’r heddlu ydi hyn.

Cafodd rhan o ardal rhyw 30 metr y tu allan i giatiau’r Palas ei ynysu gan yr heddlu yn ystod y bore ac fe welwyd ambiwlans wedi ei barcio wrth ochr yr adeilad.

Roedd dwy gyllell efo llafnau chwe modfedd a phâr o ‘trainers’ Nike , bag cario yn llawn papurau a hances boced i’w gweld ar lawr ynghanol yr ardal yma.

Mae’r Frenhines a’r Tywysog Phillip yn Sandringham yn Norfolk ar hyn o bryd.