Winston Roddick,CF
Bydd aelodau cangen Meirionnydd o Undeb Amaethwyr Cymru yn cyfarfod Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yfory i drafod plismona ardaloedd gwledig.

Winston Roddick CF fydd y gŵr gwadd yng nghyfarfod o Bwyllgor Sirol yr undeb yn Nolgellau.

Mae eisoes wedi cyfarfod cynrychiolwyr yr undeb mewn rhannau eraill o’r gogledd a hefyd cynrychiolaeth o’r NFU i drafod yr un pwnc.

Dywedodd Swyddog Gweithredol yr Undeb ym Meirionnydd, Huw Jones, ei fod yn edrych ymlaen at y drafodaeth.

“Mae’r Undeb yn croesawu’r cyhoeddiad wnaeth Mr Roddick gerbron cyfarfod o Gyngor Gwynedd yn ddiwedddar y bydd yn penodi Sarjant a swyddog  i fod â chyfrifoldeb arbennig am ardaloedd gwledig. Heb os fe fydd hyn yn un o’r materion gaiff eu trafod efo fo yn y cyfarfod.”