Yr Arlywydd Assad (Agencia Brasil CCA)
Mae Arlywydd Syria wedi cyhuddo Israel o geisio ymyrryd yng ngwleidyddiaeth y wlad er mwyn tanseilio’r llywodraeth yno.
Wrth gyfarfod swyddog o Iran yn y brifddinas Damascus, dywedodd yr Arlywydd Bashar al-Assad bod y gallu gan Syria i ymateb i fygythiadau ac ymosodiadau.
Dangosodd teledu Syria luniau o’r hyn mae nhw’n ei ddweud yw awyrennau jet Israel yn ymosod ar ganolfan ymchwil wyddonol.
Dyw Israel ddim wedi ymateb i’r honniadau yn uniongyrchol ond mae’r Gweinidog Amddiffyn, Ehud Barak, wedi awgrymu heddiw mai Israel oedd wraidd yr hyn ddigwyddodd.
Mewn cyfarfod o ddiplomyddion rhyngwladol dywedodd bod y cyrch “yn brawf ein bod yn gwneud yr hyn yr ydym yn ei ddweud.”