Mae Adran Drafnidiaeth Llywodraeth San Steffan wedi cael ei beirniadu am fod yn “anghyfrifol” yn ei rôl ym methiant cytundeb gwasanaeth trenau gwerth £5 biliwn yn y gorllewin, sy’n cynnwys trenau o Lundain i Ogledd Cymru.

Dywedodd pwyllgor o Aelodau Seneddol bod yr adran wedi cychwyn proses o ad-drefnu “uchelgeisiol” ar frys a bod yr adran wedi “dweud celwydd” wrth weinidogion a phrif swyddogion.

Fe glywodd FirstGroup ei fod wedi ennill y cytundeb gan Virgin Trains i gynnal y gwasanaeth, ond cafodd y penderfyniad ei sgrapio ar ôl i  “broblemau difrifol” a “diffygion annerbyniol” gael eu darganfod yn y broses dendro.

Mae Virgin, sydd wedi bod yn cynnal y gwasanaeth ers 1997, bellach wedi cael gwybod y gall barhau tan fis Tachwedd 2014. Fe fydd yr helynt wedi costio £40 miliwn i’r trethdalwr.

Daeth y camgymeriadau i’r amlwg ar ôl i Virgin lansio her gyfreithiol yn erbyn y penderfyniad.

Dywedodd y pwyllgor trafnidiaeth yn ei adroddiad heddiw bod diwygio’r broses dendro yn “anghyfrifol” a bod angen mwy o arbenigedd technegol.

Roedd hefyd yn feirniadol o’r ffaith bod yr adran “wedi dweud celwydd wrth weinidogion” ynglŷn â sut roedd y broses wedi cael ei benderfynu, ac yn mynnu darganfod  pam bod yr adran “wedi gwahaniaethu yn erbyn Virgin ac yn ffafrio First Group.”

Roedd adroddiad gan y gŵr busnes Sam Laidlaw fis diwethaf, a gafodd ei gomisiynu gan y Llywodraeth, yn hynod o feirniadol o’r ffordd yr oedd yr adran drafnidiaeth wedi delio a’r broses.

Mae tri aelod o staff yr adran bellach wedi cael eu gwahardd o’u gwaith o ganlyniad i’r helynt.