Bu farw dynes ar ôl cael ei tharo gan gar wrth gerdded ar hyd yr A48 ym Margam neithiwr.

Roedd y ddynes 52 oed wedi cael ei tharo gan gar Mitsubishi du ar Heol Margam ger cyffordd  Cefn Ffynnon tua 6.19yh nos Fercher.

Cafodd y ddynes ei chludo i’r ysbyty ond bu farw’n ddiweddarach.

Mae ei theulu wedi cael gwybod ac yn cael cymorth swyddogion arbenigol.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un a oedd yn yr ardal ar y pryd ac a welodd y ddamwain neu’r car Mitsubishi yn cael ei yrru cyn y digwyddiad.

Maen nhw hefyd yn awyddus i gysylltu â gyrrwr car BMW coupe coch gafodd ei weld yn yr ardal ar y pryd.

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu yn Abertawe ar 01792 456999 est 88-331 neu ffonio 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555111.