Edward Davey
Mae Cyngor Sir Cumbria wedi pleidleisio yn erbyn cynllun i adeiladu safle claddu gwastraff niwclear gwerth £12 biliwn yn yr ardal.
Fe bleidleisiodd cynghorwyr 7-3 yn erbyn cymryd camau i ystyried safle posib.
Mae’r penderfyniad wedi cael ei groesawu gan ymgyrchwyr amgylcheddol.
Dywedodd ymgyrchydd Greenpeace Leila Deen bod y penderfyniad yn “ergyd arall i ymdrechion y Llywodraeth i adeiladu atomfeydd niwclear costus.
“Mae hyd yn oed y Prif Weinidog yn cyfaddef bod angen cynllun i storio’r gwastraff cyn eu bod nhw’n gallu adeiladu atomfa newydd. Mae’r penderfyniad yma’n dangos nad yw claddu gwastraff ger un o barciau cenedlaethol mwyaf godidog y wlad yn ateb y broblem.
“Mae’n bryd nawr i weinidogion ail-ystyried eu cynlluniau niwclear a throi at ynni glan, cynaliadwy ac adnewyddol.”
Ond dywedodd yr Ysgrifennydd Ynni Edward Davey bod penderfyniad Cyngor Cumbria yn siomedig ac y byddan nhw’n parhau i chwilio am safleoedd addas i gladdu gwastraff niwclear.