Swyddfa'r Asiantaeth Ffiniau yn Croydon
Mae ymchwiliad newydd i’r Asiantaeth Ffiniau wedi darganfod bod mwy na 16,000 o fewnfudwyr yn dal i aros i glywed a fyddan nhw’n cael aros ym Mhrydain.

Mae oddeutu 14,000 o geisiadau, sy’n cynyddu bob mis, eisoes wedi cael eu gwrthod ond mae’r rhai a wnaeth y cais yn dal i apelio ar yr Asiantaeth Ffiniau (UKBA)  i ail-ystyried.

Roedd 2,100 o achosion eraill yn dal i aros am benderfyniad cychwynnol – gyda rhai yn dyddio nôl deng mlynedd. Dywed UKBA bod y ceisiadau yma bellach wedi cael eu prosesu.