Eden Hazard
Fydd un o sêr Chelsea ddim yn wynebu cyhuddiadau troseddol am gicio llanc ar faes y Liberty neithiwr.

Dyna ddywedodd clybiau Abertawe a Chelsea yn dilyn y digwyddiad rhyfedd pan gafodd Eden Hazard ei anfon o’r cae ddeng munud cyn diwedd y gêm gwpan am gicio’r llanc wrth i hwnnw fynd i gasglu’r bêl o’r ystlys.

Collodd Hazard ei bwyll gyda’r llanc am iddo wrthod rhoi’r bêl iddo, a cheisiodd gicio’r bêl tra oedd y llanc yn gorwedd arni.

Mae adroddiadau mai Charlie Morgan, mab 17 oed un o brif gyfranddalwyr clwb Abertawe, Martin Morgan, oedd y llanc.

Heddlu’n holi

Dywedodd llefarydd ar ran clwb Abertawe fod yr heddlu wedi cyfweld â’r llanc a’i dad a’u bod nhw’n fodlon fod y mater ar ben.

“Mae’r llanc wedi bod yn ystafell newid Chelsea ac wedi ysgwyd llaw gydag Eden Hazard,” meddai’r llefarydd.

“Roedd chwaraewyr megis John Terry a Frank Lampard wedi bod yn rhagorol wrth ei groesawu e i’r ystafell newid.

“Mae wedi bod yn ôl y bêl i’r chwaraewyr yma am chwe blynedd ac ni fu unrhyw ddigwyddiad o’r blaen.”

Dywedodd rheolwr Chelsea, Rafael Benitez, fod y llanc a’r chwaraewr wedi bod ar fai a’u bod nhw wedi ymddiheuro i’w gilydd.

“Fe wnawn ni ddadansoddi’r mater a disgwyl i weld a fydd yr FA yn gweithredu,” meddai.

Tân gwyllt

Cafodd tri o gefnogwyr Chelsea eu harestio cyn y gêm am geisio mynd â ffaglau i mewn i’r stadiwm. Roedd cefnogwyr Chelsea wedi cael rhybudd o flaen llaw i beidio tanio ffaglau a’u taflu ar y cae.

Yn ystod y gem ychydig o dân a gafwyd o ran cyfleoedd. Doedd dim rhaid i Abertawe fygwth yn ymosodol gan fod mantais o ddwy gôl ganddyn nhw ar ôl y cymal cyntaf, a methodd Chelsea â chael cyfleon sicr oherwydd amddiffyn trefnus yr Elyrch.

Mae’r Elyrch ar eu ffordd i Wembley i gwrdd â Bradford yn rownd derfynol y Capital One ar Chwefror 24. Dyma fydd y tro cyntaf i Abertawe fynd i ffeinal un o’r cwpanau mawr yn Lloegr, a nhw fydd y ffefrynnau yn erbyn y tîm o bedwaredd adran y gynghrair.