Mae cylchgrawn Which? wedi dweud bod cefnogwyr tîm rygbi’r Llewod yn cael eu “twyllo” gan gwmnïau sy’n cynnig gwyliau ar gyfer y daith i Awstralia’r haf nesaf.

Dim ond trwy asiantaethau swyddogol y mae modd prynu tocynnau ar gyfer y daith, sy’n golygu y bydd rhaid i gefnogwyr brynu taith drefnedig yn hytrach na thocynnau unigol.

Dywedodd Which? fod teithiau’n costio £2,499 ar gyfer y tair gêm brawf.

Ond pe bai modd prynu tocynnau unigol, gallai cefnogwyr ofyn i ffrind neu berthynas brynu’r tocynnau o’r swyddfa docynnau am £183 ar gyfer y tair gêm, ac yna trefnu teithiau awyren rhwng y taleithiau am £1,165.

Mae hynny’n golygu y byddai modd arbed £1,334.

Mae tocynnau ar gyfer y gyfres ar werth yn Awstralia am £61 yr un.

Sut i arbed arian

Mae Which? wedi awgrymu y gallai cefnogwyr hedfan i Awstralia ymlaen llaw i brynu’r tocynnau, ac yna dychwelyd yno unwaith eto yn yr haf am bris llai na’r hyn sy’n cael ei godi ar gyfer y daith sydd wedi ei drefnu.

Rhaid i unrhyw un sy’n dymuno prynu tocynnau yn Awstralia fod yn byw yn y wlad.

Dywedodd Which?: “Dylai British and Irish Lions Cyf werthu’r tocynnau am eu pris go iawn i’w cefnogwyr, yn union fel y mae’r Awstraliaid yn ei wneud ac yn yr un modd ag y mae trefnwyr Cwpan Rygbi a Phêl-droed y Byd yn ei wneud.

“Arbedwch £1,334 drwy ofyn i ffrindiau neu deulu yn Awstralia i brynu tocynnau ar eich rhan am 9am ar Chwefror 18 o www.proticket.com.au, www.ticketmaster.com.au neu www.ticketek.com.au.”

Dywedodd llefarydd ar ran teithiau Lions Rugby fod teithiau trefnedig wedi eu diogelu yn ariannol er mwyn hwyluso’r broses i deithwyr.

“Mae yna ystod o opsiynau o ran tocynnau i ddewis o’u plith, ac rydym yn credu’n gryf fod y pecynnau swyddogol yn werth yr arian o’u cymharu â digwyddiadau chwaraeon mawr eraill.”