Abertawe 0–0 Chelsea

Mae Abertawe ar y ffordd i Wembley yn dilyn gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Chelsea yn Stadiwm Liberty nos Fercher yn ail gymal rownd gynderfynol Cwpan y Gynghrair. Roedd yr Elyrch ddwy gôl ar y blaen ers y cymal cyntaf yn Stamford Bridge ac felly roedd y canlyniad yr ail gêm yn Abertawe yn ddigon i ennill lle yn y ffeinal i’r Cymry.

Bydd hon yn noson gofiadwy i gefnogwyr yr Elyrch oherwydd y canlyniad ond bydd llawer o’r siarad hefyd mae’n debyg am ddigwyddiad dadleuol rhwng chwaraewr Chelsea, Edin Hazard, ac un o fechgyn casglu peli Stadiwm Liberty.

Ychydig o gyffro a gafwyd o ran cyfleoedd mewn gwirionedd. Doedd dim rhaid i Abertawe fygwth yn ymosodol a methodd Chelsea â wneud hynny oherwydd amddiffyn trefnus yr Elyrch.

Gary Cahill â ddaeth agosaf i’r ymwelwyr ond cafodd ei beniad ef ei glirio oddi ar y llinell.

Dechreuodd Chelsea ymddangos yn fwyfwy rhwystredig wrth i’r gêm fynd yn ei blaen a daeth hynny i uchafbwynt ddeg munud cyn diwedd y naw deg pan dderbyniodd Hazard gerdyn coch.

Gyda’r bêl oddi ar y cae fe benderfynodd y ‘ball boy’ cartref orfedd drosti yn hytrach na’i dychwelyd i gôl-geidwad Abertawe am gic gôl. Ceisiodd ymosodwr Chelsea a Gwlad Belg gicio’r bêl oddi tano ond ciciodd y bachgen hefyd.

Doedd gan y dyfarnwr fawr o ddewis ond dangos cerdyn coch i Hazard, ond roedd y gêm wedi ei hennill ym mhell cyn hynny mewn gwirionedd.

Canlyniad cofiadwy i’r Elyrch felly a gobaith gwirioneddol i ennill y gwpan gan mai Bradford o Adran Dau sydd yn eu haros yn y rownd derfynol yn Wembley ar y 24ain o Chwefror.

Barn Seren y Gêm, Ashley Williams

“Ar adegau, roedd hi fel ffeit mewn bar, yn enwedig wrth iddyn nhw bwyso yn y diwedd. Ond fe amddiffynnom ni yn wych fel tîm.”

.

Abertawe

Tîm: Tremmel, Chico, Williams, Rangel, Davies, Britton, Michu, Pablo, Routledge (Dyer 65’), De Guzman, Ki Sung-Yeung

.

Chelsea

Tîm: Cech, Ivanovic (David Luiz 68’), Cole (Bertrand 86’), Cahill, Azpilicueta, Ramires, Lampard, Mata, Oscar (Torres 81’), Hazard, Ba

Coch: Hazard 80’

.

Torf: 19,506