Rohit Sharma a Suresh Raina oedd sêr tîm criced India heddiw, wrth iddyn nhw guro Lloegr o 5 wiced, ac ennill y gyfres o gemau 50 pelawd.

Wedi iddyn nhw ennill y tafliad, penderfynodd India i fowlio, gan roi Alastair Cook ac Ian Bell i mewn i fatio yn gyntaf.  Dechreuodd yr ymwelwyr yn dda, gyda Cook a Kevin Pietersen yn cyrraedd 76 yr un, a Joe Root yn sgorio 57 heb fod allan ar ddiwedd y 50 pelawd.

Yn anffodus i dîm Cook, ni lwyddodd Morgan a Patel i gael dylanwad wrth fatio, y ddau allan am 3 ac 1 wrth i Loegr gyrraedd 257-7.

Daeth Rohit Sharma ymlaen i agor y batio i India, a sgoriodd 83 cyn i Steven Finn gymryd ei wiced.  Ond seren India oedd Suresh Raina, a sgoriodd 89 heb fod allan.

Cafodd bowliwr Lloegr Steven Finn ei siomi wedi iddo gymryd wiced Raina, ond i’r dyfarnwr benderfynu na fyddai’r wiced yn cyfri oherwydd i Finn daro’r stympiau wrth fowlio.  Roedd y penderfyniad yn un pwysig yn y diwedd, wrth i Raina gario’r tîm am weddill y gêm a sicrhau buddugoliaeth i India, gan gyrraedd 258 ar ôl 47.3 pelawd.

Mae’r canlyniad yn rhoi buddugoliaeth i India yn y gyfres hefyd, maen nhw’n arwain o 3-1, gydag ond un gêm ar ôl i chwarae.