Mae enw chwaraewr canol-cae Abertawe, Jonathan de Guzman ar restr o chwaraewyr a allai gael eu galw i garfan Yr Iseldiroedd ar gyfer eu gêm gyfeillgar yn erbyn Yr Eidal fis nesaf.
Mae Jonathan de Guzman, sy’n enedigol o Ganada, hefyd yn gymwys i gynrychioli’r Iseldiroedd, ac mae e wedi denu sylw dewiswyr ar ôl perfformiad clodwiw yn erbyn Stoke y penwythnos diwethaf.
Sgoriodd e ddwy gôl yn y gêm.
Mae e ar fenthyg gyda’r Elyrch o glwb Villareal yn Sbaen, ond mae e wedi datgan ei ddymuniad i aros yng Nghymru y tu hwnt i’w gytundeb presennol sy’n dod i ben ar ddiwedd y tymor.
Cafodd y garfan gychwynnol ei henwi heddiw, a bydd y garfan derfynol yn cael ei chyhoeddi ar Chwefror 1.
Mae golwr Abertawe, Michel Vorm hefyd ymhlith yr enwau gafodd eu cyhoeddi heddiw.