Mae clwb Abertawe wedi cael hwb mawr cyn y gêm gwpan yn erbyn Chelsea heno gyda’r newydd fod Miguel Michu wedi arwyddo cytundeb newydd pedair blynedd o hyd gyda’r clwb.

Mae’r Sbaenwr wedi sgorio 16 gôl mewn 28 ymddangosiad ers symud o glwb Rayo Vallecano dros yr haf am £2.2m, a dywedodd fod aros ar y Liberty wedi bod yn “benderfyniad hawdd.”

“Rwy’n byw breuddwyd yma yn Abertawe ac yn mwynhau chwarae yn fwy nag erioed,” meddai Michu.

“Rwy’n hapus yma gyda’r bobol, y clwb, y cefnogwyr. Mae pawb wedi bod mor glên ers i fi gyrraedd.”

Roedd sôn y byddai Michu yn symud i un o glybiau mawr yr uwch-gynghrair ar ôl gwneud cymaint o argraff yn ei dymor cyntaf ond mae’r cytundeb newydd yn ei gadw gydag Abertawe tan 2016, ac yn estyniad o flwyddyn ar ei hen gytundeb.

Dywedodd y blaenwr nad oedd diddordeb ganddo yn yr holl sïon am symud i Loegr.

“Rwy’n mwynhau fy hun ormod achos mae’r tîm wastad yn ceisio chwarae. Y cyfan rwy’n meddwl amdano yw’r gêm nesaf a helpu Abertawe i lwyddo.

“Dyma fy mywyd.”