Bydd gan dîm pêl-droed Abertawe gyfle i gyrraedd rownd derfynol un o brif gystadlaethau Lloegr am y tro cyntaf yn hanes y clwb heno, pan fyddan nhw’n herio Chelsea yng Nghwpan y Capital One.
Mae’r Elyrch yn arwain o 2-0 wedi cymal cyntaf y gêm gynderfynol, ar ôl perfformiad gwych yn Stamford Bridge ar 9 Ionawr. A bydd y rheolwr, Michael Laudrup yn disgwyl perfformiad o safon well heno, pan fydd Pencampwyr Ewrop yn ymweld â’r Liberty.
Bradford fydd yn disgwyl y tîm buddugol yn y rownd derfynol, wedi iddynt guro Aston Villa, tîm sydd 62 safle yn uwch yn y gynghrair, o 4-2 neithiwr.
Gall y canolwr Chico Flores ddychwelyd i’r tîm wedi iddo fethu’r gêm yn erbyn Stoke ddydd Sadwrn, ac mae disgwyl i Gerhard Tremmel ddechrau yn y gôl. Mae’n bosib y bydd John Terry yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn amddiffyn Chelsea ers anaf ym mis Tachwedd.
10 mlynedd yn ôl, roedd Abertawe yn eistedd ar waelod y 92 o glybiau yn y gynghrair yn Lloegr, ac mae amddiffynnwr yr Elyrch, Angel Rangel wedi dweud bod y tîm yn benderfynol o gipio’r cyfle sydd ganddyn nhw heno.
“Os byddai rhywun wedi dweud 5 mlynedd a hanner yn ôl, pan yn y gynghrair gyntaf, y byddwn ni heddiw ymysg 10 tîm uchaf yr Uwch Gynghrair ac yn chwarae Chelsea i gyrraedd rownd derfynol Cwpan y Capital One yn Wembley, byddwn i wedi dweud ei fod yn amhosib,” meddai Rangel.
“Mae’n un o’r gemau rydym wedi bod yn aros amdano am amser hir iawn.”
Ond er bod Abertawe yn arwain o 2-0, mae Michael Laudrup yn parhau i fod yn realistig am siawns yr Elyrch heno.
“Ai ni yw’r ffefrynnau i ennill? Fe wnaeth Chelsea ennill Uwch Gynghrair y Pencampwyr y llynedd, felly na, dydw i ddim yn meddwl,” meddai’r rheolwr.
Ond mae’n teimlo bod mwy o bwysau ar ei wrthwynebwyr, yn enwedig rheolwr Chelsea, Rafael Benitez.
“Gyda’r arian maen nhw wedi ei wario, mae’n amlwg eu bod angen tlws yn fwy na ni,” meddai. “Mae un o’u chwaraewyr nhw, ac nid hyd yn oed yr un drytaf, yn costio mwy na charfan ni i gyd.”
Bydd Abertawe yn chwarae Chelsea am 7.45yh heno, yn Stadiwm y Liberty.