Geraint Thomas
Enillodd y seiclwr Geraint Thomas ail gymal y Tour Down Under yn Awstralia heddiw, buddugoliaeth sy’n golygu bod y Cymro yn arwain y ras ar hyn o bryd.
Defnyddiodd Thomas ei bŵer i symud oddi wrth y pac ar allt droellog, cyn sbrintio at y llinell a sicrhau bwlch o 5 eiliad rhyngddo ef a Javier Moreno yn yr ail safle, a Ben Hermans yn drydydd.
Llwyddodd Thomas, a enillodd fedalau aur yng Ngemau Olympaidd 2008 a 2012, i gwblhau’r cymal 116.5km o hyd mewn amser o 1.04:01. Bydd yn dechrau’r cymal nesaf, 139km o Unley i Stirling ym mryniau Adelaide, fel arweinydd y pac.
“Roedd o’n ddiwrnod da. Roeddwn i’n teimlo’n dda ers y dechrau,” meddai Thomas, 26. “Edrychodd y tîm ar fy ôl i heddiw ac fe wnaethon nhw weithio’n galed drosta’i drwy’r dydd.
“Dwi wedi bod yn gweithio yn galed dros y gaeaf, ac ers cystadlu ar y trac, dwi wedi bod yn canolbwyntio ar ddychwelyd i rasio ar y ffyrdd. Dyna beth roddodd hwb i fi barhau ar ôl y Gemau Olympaidd.”