Mae gweinyddwyr y cwmni HMV, Deloitte wedi cyhoeddi y bydd hawl i gwsmeriaid ddefnyddio tocynnau rhodd yn eu siopau wedi’r cyfan.

Wythnos diwethaf, cyhoeddodd Deloitte na fyddai HMV yn derbyn y tocynnau, ond yn dilyn pwysau gan y cyhoedd, mae’r gweinyddwyr wedi gwrthdroi’r penderfyniad.  Gall cwsmeriaid ddefnyddio tocynnau o yfory ymlaen.

Dywedodd Nick Edwards o Deloitte bod y penderfyniad wedi ei wneud yn dilyn asesiad o sefyllfa ariannol HMV.  Dywedodd hefyd y buasai elw a wnaethpwyd o senglau elusennol, gan gynnwys sengl yr Hillsborough Justice Collective, yn mynd i’r mannau priodol mor sydyn â phosib.

“Rydyn ni’n deall bod y materion yma yn achosi pryder i’r unigolion a’r mudiadau perthnasol, ac rydyn ni’n falch o fod wedi cyrraedd cytundeb positif,” meddai Nick Edwards.

Mae Deloitte yn y broses o chwilio am berchennog newydd i gwmni HMV, wedi iddogael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr wythnos ddiwethaf.  Yn ddiweddar, mae HMV wedi dioddef o ganlyniad i werthiant uchel o gerddoriaeth a ffilmiau ar y we, a nawr mae bygythiad i dros 4,000 o swyddi mewn 223 o siopau.