Michael Winner
Mae’r cyfarwyddwr ffilm, Michael Winner wedi marw yn 77 oed.

Roedd wedi bod yn dioddef o salwch ers peth amser a bu farw yn ei gartref yn Kensington, Llundain heddiw.

Roedd Michael Winner wedi cynhyrchu dros 30 o fflimiau, gan gynnwys y gyfres o ffilmiau ‘Death Wish’.

Roedd hefyd yn adnabyddus am ei adolygiadau o fwytai yn ei golofn Winner’s Dinners yn y Sunday Times.

Roedd ei wraig, Geraldine wedi bod yn gofalu amdano yn eu cartref, a fe gyhoeddodd y newyddion heddiw.  “Roedd Michael yn ddyn rhagorol, ardderchog, doniol a hael,” meddai.