Ucheldiroedd yr Alban
Cafodd pedwar o ddringwyr eu lladd mewn llithriad eira yn Ucheldiroedd yr Alban ddoe.
Roedden nhw ymysg criw o chwech ar fynydd Bidean Nam Bian, ger Glencoe.
Rai oriau ar ôl i’r gwasanaethau brys gael eu galw tua 2 o’r gloch brynhawn ddoe, cafodd timau achub mynydd Glencoe a Lochaber hyd i ddau ddyn a dwy ddynes yn farw, wedi eu claddu o dan yr eira.
O’r ddau ddringwr arall, roedd un yn ddianaf, a helpodd yr achubwyr i gael hyd i’w gyfeillion, ac aed â dynes i ysbyty yn Fort William gydag anafiadau difrifol i’w phen.
Gan ddisgrifio’r digwyddiad fel “trychineb enbyd”, diolchodd Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond i’r timau achub ac i’r heddlu, gan ychwanegu:
“Rydym yn meddwl am deuluoedd y rheini sydd wedi cael eu colli ac yn gweddïo trostynt.”