Mae Tesco wedi rhoi hysbyseb tudalen lawn mewn nifer o bapurau newydd cenedlaethol heddiw yn ymddiheuro i gwsmeriaid am werthu byrgyrs cig eidion sy’n cynnwys cig ceffyl.
Dywedodd Asiantaeth Safonau Bwyd Iwerddon ddoe bod profion wedi dangos bod olion o’r cig wedi cael ei ddarganfod mewn byrgyrs sy’n cael eu gwerthu yn archfarchnadoedd Tesco, Iceland, Lidl, Aldi, a Dunnes Stores.
Yn yr hysbyseb mae Tesco’n dweud: “Tra bod Asiantaeth Safonau Bwyd Iwerddon wedi dweud nad yw’r cynnyrch yn peri unrhyw risg i iechyd y cyhoedd, rydym yn gwerthfawrogi bod ein cwsmeriaid, fel ni, yn meddwl bod hyn yn hollol annerbyniol.
“Rydym wedi tynnu pob cynnyrch gan y cyflenwr dan sylw oddi ar y silffoedd, o’n holl siopau ac ar-lein … Rydym ni, a’n cyflenwr, wedi eich siomi ac rydym yn ymddiheuro.”
Mae’r hysbyseb yn gorffen drwy ddweud: “Felly dyma ein haddewid. Byddwn yn darganfod yn union beth ddigwyddodd a, phan fyddwn ni’n gwybod, byddwn yn dweud wrthych chi.”
Dywedodd Cadeirydd Hybu Cig Cymru, Dai Davies, ddoe ei fod yn ofni effaith hyn ar y diwydiant amaeth gan bwysleisio nad yw HCC yn gallu plismona’r cig sy’n dod i mewn i’r wlad.
Dywedodd y Prif Weinidog, David Cameron, ddoe bod rhaid i archfarchnadoedd gymryd cyfrifoldeb am yr hyn a ddigwyddodd a dywedodd ei fod yn achos hynod o annifyr.
“Mae hon yn sefyllfa gwbl annerbyniol,” meddai.
“Mae’n werth gwneud y pwynt mai, yn y pen draw, yr archfarchnadoedd sy’n gyfrifol am yr hyn maen nhw’n ei werthu ac o le mae’r cynnyrch wedi dod.”