Jimmy Savile (William Starkey CCA2.0)
Fe fydd adroddiad heddiw’n awgrymu fod y cyflwynydd teledu, Jimmy Savile, wedi ymosod yn rhywiol ar blant cyn ieuenged â 10 oed.

Fe fydd hefyd yn dweud fod mwy na 30 o honiadau o dreisio wedi eu gwneud yn erbyn y DJ a’r marchog a fu farw yn 2011.

Mae’r adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar y cyd gan y gymdeithas warchod plant, yr NSPCC, a Heddlu Llundain.

Fe fydd yn dweud bod 581 o bobol wedi cynnig gwybodaeth a bod 450 o gwynion wedi eu gwneud yn erbyn Jimmy Savile ei hun.

Ar dir y BBC

Yr honiad yw fod llawer o’r ymosodiadau wedi digwydd ar dir y BBC lle’r oedd yn gweithio ac eraill mewn ysbytai, lle’r oedd yn gwneud gwaith gwirfoddol.

Mae ymchwiliad yr heddlu wedi’i rannu’n dri – honiadau yn erbyn Savile, honiadau’n erbyn Savile ar y cyd ag eraill a honiadau yn erbyn pobol eraill yn unig.

Mae nifer o enwogion wedi cael eu harestio a’u holi yn sgil hynny ac mae sôn am ragor o gwynion yn erbyn pobol sydd bellach yn eu 60au, eu 70au a’u 80au.

Sylwadau’r NSPCC

“Mae’n hollol amlwg fod Savile wedi ymosod ar blant ifanc iawn a’i fod yn bedoffil ar raddfa fawr, does dim amheuaeth am hynny,” meddai pennaeth gwarchod plant yr NSPCC, John Cameron.

“R’yn ni eisiau i hyn fod yn newid diwylliannol sy’n golygu pan fydd plentyn yn codi’i lais am rywun, y byddwn yn cymryd yr hyn y maen nhw’n ei ddweud o ddifrif ac y byddwn wastad yn gweithredu ar hynny yn y dyfodol.”