Daniel Day Lewis
Bydd Daniel Day-Lewis yn gobeithio ennill ei drydydd Oscar fis nesaf, wedi iddo gael ei enwebu heddiw am ei rôl yn chwarae cyn Arlywydd America yn y ffilm ‘Lincoln’.
Mae’r ddrama hanesyddol wedi ei enwebu mewn 12 o gategorïau, gan gynnwys y ffilm orau, a’r cyfarwyddwr gorau i Steven Spielberg.
Bydd Lewis yn cystadlu am wobr yr actor gorau yn erbyn Hugh Jackman, Joaquin Phoenix, Denzel Washington a Bradley Cooper.
Jennifer Lawrence yw’r ffefryn cynnar i gipio gwobr yr actores orau, a hynny am ei rôl yn ‘Silver Linings Playbook’. Mae Naomi Watts, Jessica Chastain, Quvenzhane Wallis ac Emmanuelle Riva hefyd wedi’u henwebu.
Yn ymuno â ‘Lincoln’ yng nghategori’r ffilm orau mae ‘Argo’, Les Miserables’ a ‘Life of Pi’, a hefyd rhai ffilmiau llai adnabyddus, fel ‘Beasts of the Southern Wild’, a ‘Django Unchained’ gan Quentin Tarantino. ‘Amour’, ‘Silver Linings Playbook’ a ‘Zero Dark Thirty’ sydd yn cyflawni’r rhestr.
Mae’r gantores Brydeinig Adele hefyd wedi cael cydnabyddiaeth, gydag enwebiad yng nghategori’r gerddoriaeth orau, am ei chân ‘Skyfall’.
Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal ar Chwefror 24 yn Los Angeles.