Gwilym Owen
Mae cyn-bennaeth rhaglenni newyddion Cymraeg y BBC wedi dweud fod Radio Cymru yn troi’n “glamp o siop siafins” a bod angen newidiadau i’r orsaf.
Yn ei golofn yn Golwg yr wythnos yma dywed Gwilym Owen fod seiliau’r gwasanaeth yn “gwegian a holl ddyfodol gwasanaeth radio Cymraeg y BBC yn y fantol.”
“Am ba hyd y caniateir y rhyddid i’r criw presennol i baratoi arlwy sydd ddim ond cybolfa o gerddoriaeth a rwdlan geiriol am oriau ben bwygilydd yn ddyddiol?” gofynna Gwilym Owen.
“Yn hytrach na phapuro dros y craciau drwy gael cyfaddawd ariannol gydag Eos ewch ati fel Ymddiriedolwyr a Bwrdd Rheoli’r Gorfforaeth yng Nghymru i ddefnyddio’r bennod hon i ail osod sylfeini diogel ar gyfer tonfedd radio genedlaethol apelgar hyd yn oed os yw hynny yn golygu fod yna ambell un yn gorfod dilyn ôl troed George Entwistle – ond heb yr arian!”
Mae cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, wedi cydnabod fod yr anghydfod gyda cherddorion yn “bygwth gallu Radio Cymru i ddarparu gwasanaeth o’r safon uchaf.”
Ac ar Radio Cymru’r bore ma dywedodd cyn-gadeirydd S4C, John Walter Jones, ei fod yn pryderu am effaith y boicot ar ddyfodol Radio Cymru.