Rhodri Talfan Davies
Mae Cyfarwyddwr BBC Cymru wedi dweud nad yw’r Gorfforaeth yn barod i dalu “unrhyw bris” i ddod â’r anghydfod gyda cherddorion i ben.

Roedd gan y BBC tan heddiw i ystyried cynnig gan Eos er mwyn dod â’r anghydfod dros daliadau cerddorion i ben ond mae Rhodri Talfan Davies wedi dweud y gall y trafodaethau “gymryd sbel.”

Mae’r anghydfod eisoes wedi para deng niwrnod ac nid yw’r BBC, ac yn benodol Radio Cymru, wedi medru chwarae 30,000 o ganeuon aelodau Eos.

Mewn neges at staff BBC Cymru dywedodd Rhodri Talfan Davies fod yr anghydfod yn “bygwth gallu Radio Cymru i ddarparu gwasanaeth o’r safon uchaf” a’i fod yn “gresynu fod llwyddiant y gwasanaeth mewn perygl.”

Ychwanegodd nad cyfrifoldeb y BBC ar ei phen ei hun yw datrys rhai o’r heriau sy’n wynebu’r sin gerddoriaeth Gymraeg, ac “na fyddai’n briodol defnyddio arian y drwydded i wneud hynny.”

Ymyrraeth y Llywodraeth?

Ddydd Llun dywedodd pennaeth rhaglenni Cymraeg BBC Cymru, Siân Gwynedd, mai’r cerddorion yw “asgwrn cefn” Radio Cymru a bod sicrhau cytundeb yr wythnos yma yn “allweddol.” Mynegodd hefyd ei phryder fod yr anghydfod wedi niweidio’r berthynas rhwng cerddorion Cymraeg a Radio Cymru.

Mae Eos yn galw am daliadau uwch i’w aelodau am ddarlledu eu caneuon nhw, ac yn mynnu eu bod nhw wedi cyfaddawdu mwy na’r BBC ar yr hyn roedden nhw’n ei fynnu ar ddechrau’r trafodaethau.

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi dweud eisoes fod y llywodraeth yn ystyried ymyrryd er mwyn sicrhau cytundeb rhwng y ddwy ochr.