Andrew Marr
Mae’r darlledwr Andrew Marr yn gwella yn yr ysbyty ar ôl cael strôc, mae’r BBC wedi cadarnhau.

Cafodd y newyddiadurwr a chyflwynydd teledu 53 oed ei daro’n wael ddydd Mawrth.

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC ei fod yn ymateb i driniaeth. Mae ei deulu wedi gofyn am breifatrwydd tra’i fod yn gwella.

“Mae ei gydweithwyr a’r BBC i gyd yn dymuno gwellhad buan iddo.”

Fe fydd yr Andrew Marr Show a Start the Week ar Radio 4 yn parhau i gael eu darlledu gyda chyflwynwyr gwadd yn ystod ei absenoldeb.