Amy Winehouse
Mae ail gwest i farwolaeth y gantores Amy Winehouse wedi cadarnhau ei bod wedi marw o ganlyniad i wenwyn alcohol.

Cafodd yr un rheithfarn o farwolaeth drwy anffawd ei gofnodi yn yr ail wrandawiad.

Cafodd ail gwest ei gynnal ar ôl i’r cwest cyntaf gael ei glywed gan grwner oedd heb y cymwysterau cywir.

Clywodd y gwrandawiad heddiw bod lefel yr alcohol yn sustem y gantores bum gwaith dros y lefel gyfreithiol yfed a gyrru pan fu farw.

Cafodd Amy Winehouse ei darganfod yn farw yn y gwely yn ei fflat yn Camden, gogledd Llundain ar 23 Gorffennaf 2011.  Cafwyd hyd i ddwy botel o fodca wrth ymyl ei gwely pan gafodd ei chorff ei ddarganfod.

Cafodd y cwest cyntaf ei gynnal ym mis Hydref 2011.