David Bowie
Mae David Bowie wedi dathlu ei ben-blwydd yn 66 mlwydd oed drwy ryddhau sengl newydd, gydag albwm i ddilyn ym mis Mawrth – y cyntaf ers degawd.
Daeth y seren bop i amlygrwydd yn niwedd y 1960au gyda Space Oddity, a chafodd ei sengl newydd ‘Where Are We Now?’ ei ryddhau ar itunes y bore ma gyda fideo i gyd-fynd a hi ar ei wefan.
Cafodd albwm ddiwethaf Bowie, Reality, ei ryddhau yn 2003 a tydi o heb berfformio’n fyw ers iddo ymddangos â Dave Gilmour yn y Royal Albert Hall yn Llundain yn 2006, ac ychydig fisoedd wedyn mewn cyngerdd elusennol yn Efrog Newydd.
Fe geisiodd Danny Boyle ei orau i berswadio Bowie i berfformio yn seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd y llynedd, ond gwrthod wnaeth y perfformiwr sy’n byw yn Efrog Newydd.
Mae’r record newydd yn gweld Bowie yn adolygu ei amser ym Merlin – lle wnaeth o greu llawer o’i gerddoriaeth yn y 1970au – ac mae’n rhestru ei hoff lefydd yn y ddinas gan ailadrodd y linnell “just walking the dead”.
Fe wnaeth ei ailymddangosiad achosi dipyn o stŵr ar-lein gyda nifer o enwogion gan gynnwys Boy George a Jon Ronson yn canmol y sengl.