Mae’r BBC yn torri amodau ei Siarter Brenhinol drwy beidio a rhoi tâl teg i berfformwyr Cymraeg, yn ôl mudiad Dyfodol i’r Iaith.
Mewn llythyr at Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr Cymru y BBC, mae Bethan Jones Parry, llywydd Dyfodol i’r Iaith, yn dweud nad yw’r BBC yn “gwasanaethu Cymru, ac nid yw’n hyrwyddo creadigedd, fel y mynnir gan y Siarter.”
“Mae’n amlwg bod y BBC ar hyn o bryd yn gweithredu’n groes i’r dibenion hyn, ac yn gweithredu, felly, yn groes i’r Siarter y mae’r Ymddiriedolwyr yn rhwym o’i gynnal,” meddai Bethan Jones Parry.
Yn y llythyr dywed na ddylai gwerth y Gymraeg a chyfraniadau trwy gyfrwng y Gymraeg fod yn ddibynnol ar faint sy’n gwrando neu’n gwylio.
“Pen draw naturiol dadl fel hyn yw dileu Radio Cymru ac S4C waeth beth bynnag sy’n digwydd ynglŷn â’r cerddorion,” meddai Bethan Jones Parry.
Mae hi’n gofyn i Elan Closs Stephens ddefnyddio’i dylanwad i sicrhau bod y BBC yn cadw at delerau ei Siarter, ac yn ailgyflwyno gwasanaeth cyflawn yn y Gymraeg. Mae Radio Cymru wedi bod yn chwarae nifer o ganeuon clasurol, rhyngwladol a Saesneg er mwyn llenwi’r bwlch cerddorol ers i’r boicot ddechrau union wythnos yn ôl
Asgwrn cefn
Mae’r BBC a chorff hawliau darlledu Eos yn cwrdd heddiw ac mae’r ddwy ochr wedi mynegi eu dyhead i gael cytundeb ac wedi rhoi pwyslais ar eu cyd-ddibyniaeth.
Dywedodd Siân Gwynedd mai’r cerddorion yw asgwrn cefn gwasanaeth Radio Cymru a bod y ddibyniaeth rhwng yr orsaf a’r cerddorion yn “unigryw” tra dywedodd Dafydd Roberts o Eos fod dyfodol Radio Cymru yn fater o bryder iddyn nhw fel cerddorion hefyd.
“Mae hi’n berthynas bwysig ofnadwy ac mae’n drist bod y BBC, yn Llundain beth bynnag, yn barod i chwalu ein gorsaf genedlaethol yn hytrach nag edrych ar y gwerthoedd yn fanwl,” meddai Dafydd Roberts.