Mae cadeirydd pwyllgor llywio Eos wedi dweud ei fod yn “obeithiol” y byddan nhw’n dod i gytundeb â’r BBC wrth iddyn nhw ail-afael yn eu trafodaethau yfory – er nad yw’n ffyddiog, meddai.

Dywedodd Prif Weithredwr Sain, Dafydd Roberts wrth Golwg360 bod Eos eisiau “dod i delerau, dod i gytundeb, fel y BBC.”

Eos yw’r corff hawliau darlledu newydd sy’n gofyn am fwy o dâl i gerddorion am chwarae eu caneuon Cymraeg ar y BBC. O ganlyniad i’r anghydfod, nid yw Radio Cymru wedi cael darlledu o blith 30,000 o ganeuon Cymraeg ers 1 Ionawr.

Dywedodd Pennaeth Rhaglenni a Materion Cymreig y BBC, Siân Gwynedd, ar Radio Cymru’r bore yma y bydd cytundeb yn “allweddol” pan fyddan nhw’n cyfarfod yfory. Ychwanegodd mai’r cerddorion yw asgwrn cefn gwasanaeth Radio Cymru a bod y ddibyniaeth rhwng yr orsaf a’r cerddorion yn “unigryw.”

‘Cefnogaeth’

Mae Dafydd Roberts wedi dweud ei fod yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth sydd wedi cael ei ddangos i’r cerddorion dros yr wythnosau diwethaf.

“Mae’r pwysau cyhoeddus wedi cynyddu cymaint ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn am hynny. Mae cefnogaeth beirdd gyda gohirio Talwrn y Beirdd, cefnogaeth gyhoeddus yr Archdderwydd, a Meredydd Evans a Chylch yr Iaith, i gyd yn helpu’r achos.”

Dr Meredydd Evans yw’r diweddaraf i ddangos ei gefnogaeth i’r cerddorion drwy ddatgan na fydd yn cyfrannu i Radio Cymru nes daw’r anghydfod i ben. Mae’r Archdderwydd Jim Parc Nest eisoes wedi ymuno â boicot Radio Cymru trwy ddweud na fydd yn cyfrannu at yr orsaf tan y bydd cytundeb.

“Dydyn ni chwaith eisiau gweld Radio Cymru yn dirywio,” meddai. “Mae hi’n berthynas bwysig ofnadwy ac mae’n drist bod y BBC, yn Llundain beth bynnag, yn barod i chwalu ein gorsaf genedlaethol yn hytrach nag edrych ar y gwerthoedd yn fanwl,” meddai Dafydd Roberts.