John Hardy
Bydd cynghorydd sir o Wynedd yn trafod ei rôl mewn ymgyrch fomio mewn rhaglen newydd ar S4C heno.

Ym mhennod gyntaf cyfres Cadw Cwmni gyda John Hardy bydd Owain Williams o Lanllyfni yn trafod ei weithred yn erbyn boddi Cwm Tryweryn yn y 1960au a arweiniodd at gyfnod yn y carchar iddo.

Mae’n gynghorydd sir yng Nghlynnog ers rhai blynyddoedd bellach ac yn arweinydd ar grŵp Llais Gwynedd ar y cyngor.

Yn y rhaglen hefyd fe fydd Peter Watkin Jones o Rydri ger Caerffili yn sôn am ei gyfnod yn arwain ymchwiliad i gyflafan Bloody Sunday yng Ngogledd Iwerddon.

“Y stori sy’n bwysig,” meddai’r cyflwynydd John Hardy, wrth esbonio beth all y gwylwyr ddisgwyl o’r gyfres.

“Dwi wedi holi cannoedd o bobl yn ystod fy ngyrfa, ac mae’r Cymry yn dda iawn am ddweud eu straeon,” meddai cyflwynydd y rhaglen Cofio ar Radio Cymru.

“Dwi’n dal i ryfeddu at gefndiroedd a straeon pobol ac mae’n fraint i mi roi llwyfan iddyn nhw,” meddai.

“Dwi ddim yn licio meddwl bod y straeon hyn yn mynd yn angof.”

Mae Cadw Cwmni gyda John Hardy ar S4C am 9.30 heno.