Sian Gwynedd
Mae Pennaeth Rhaglenni a Materion Cymreig y BBC wedi dweud fod cytundeb yn “allweddol” yfory pan fydd y BBC a’r corff hawliau Eos yn ail-afael yn eu trafodaethau.
Y nod fydd ceisio rhoi pen ar ‘streic’ cerddorion tros y taliadau hawlfraint bychan sy’n cael eu gwneud am ganeuon Cymraeg.
Mewn cyfweliad ar Radio Cymru’r bore yma dywedodd Siân Gwynedd mai’r cerddorion yw asgwrn cefn gwasanaeth Radio Cymru a bod y ddibyniaeth rhwng yr orsaf a’r cerddorion yn “unigryw.”
“Dwi’n gobeithio na fydd hyn oll yn gwneud niwed i’n perthynas ni gyda’r cerddorion,” meddai. “Rhaid i bawb fod yn rhesymol, yn deg ac yn agored i gytundeb,”
Eos yw’r corff hawliau darlledu newydd sy’n gofyn am fwy o dâl i gerddorion am chwarae eu caneuon Cymraeg ar y BBC.
“Blaenoriaeth y BBC drwyddi draw ydy cytundeb achos dydy’r sefyllfa ar hyn o bryd ddim er budd neb.”
‘Mynd yn galetach i gynnal y gwasanaeth’
Dywedodd Siân Gwynedd fod y BBC yn barod i ddefnyddio gwasanaeth cymodi annibynnol er mwyn dod â’r anghydfod i ben.
“Alla i ddim addo na fydd hi’n mynd yn galetach i gynnal y gwasanaeth heb gytundeb,” meddai Siân Gwynedd. Mae Radio Cymru wedi cwtogi ei horiau ers Dydd Calan ac wedi bod yn chwarae nifer o ganeuon clasurol, rhyngwladol a Saesneg yn y cyfamser er mwyn llenwi’r bwlch.
Mae’r Archdderwydd Jim Parc Nest wedi ymuno â boicot Radio Cymru trwy ddweud na fydd yn cyfrannu at yr orsaf tan y bydd cytundeb.
Llythyr at Elan Closs
Yn y cyfamser mae Eos yn annog y cyhoedd i anfon llythyr at Ymddiriedolwr Cenedlaethol y BBC dros Gymru, Elan Closs Stephens.
Dyma eiriad y llythyr:
“Ysgrifennaf atoch i gwyno am fethiant y BBC i ddod i gytundeb gyda chyfansoddwyr a chyhoeddwyr cerddoriaeth Gymraeg.
“Fel un o wrandawyr yr orsaf rwy’n gofidio am y toriadau diweddar ar Radio Cymru. Fel unigolyn sy’n talu’r drwydded, rwy’n disgwyl cael gwasanaeth llawn a safonol ar Radio Cymru.
“Credaf fod eich parodrwydd i dorri nôl ar ein gwasanaeth cenedlaethol yn diystyru dymuniadau eich gwrandawyr i gael gwasanaeth iach a chynhwysfawr sy’n cynrychioli ein diwylliant pob-dydd.
“Gofynnaf i chi barchu ein dymuniadau ac adfer yr oriau darlledu a gollwyd, a rhoi sylw teg a theilwng i gerddoriaeth boblogaidd Gymraeg.”