Miss Cymru 2011 ar y chwith
Fe fydd S4C yn anfon pobol sengl ar ddêt gydag anifeiliaid, yn y gobaith y cawn nhw gariad.
Ar Fi Neu’r Ci mae person yn cyfarfod dau anifail anwes, ac yn dewis perchennog yr anifail sydd orau ganddo/ganddi I fynd ar ddêt “go-iawn”.
Bydd y gyfres yn cychwyn ymhen pythefnos ac un o’r merched arni yw Sara Manchipp o Faglan ger Port Talbot. Fe enillodd y ferch 23 oed wobr Miss Wales 2011 ac mae’n hoff iawn o anifeiliaid.
“Mae gen i gi a dau bysgodyn,” meddai Sara, sy’n astudio seicoleg a chwnsela ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe ac yn gweithio yn Subway a Revolution hefyd. “Sophie, Barry a Flipper.”
“Rwy’n caru anifeiliaid a dwi’n gwneud lot o waith gwirfoddol i elusen RSPCA felly oeddwn ni’n meddwl y byddai mynd ar Fi Neu’r Ci yn siŵr o fod yn sbort!”
Ceffyl a Doberman
Bu Sara ddigon lwcus i gael dêt gyda Jan a Celt, ceffyl a chi Doberman, ond roedd yn rhaid gweld a oedd Sara yn addas, nid yn unig ar gyfer y dynion, ond hefyd ar gyfer y gwaith o ofalu am eu hanifeiliaid, felly doedd pethau ddim yn fêl i gyd.
“Oedd rhaid i fi lanhau’r pŵ mas o’r stablau a mynd â fe mas yn y wilber! Ag odd e’n ful eithaf drwg; mae ‘da fi hair extensions ag odd e’n meddwl mai gwair odd e ag yn trio bwyta fe! Ag odd e’n cicio fy mag newydd i gyda carnau llawn baw. ‘Do ni ddim yn hapus!”