Mae prif leisydd y Super Furry Animals wedi gofyn i Radio Cymru beidio â chwarae ei ganeuon tra bo’r BBC ac Eos yn ceisio taro bargen ar freindal.

Er bod caneuon Cymraeg y 300 o aelodau Eos ddim yn cael eu chwarae ar Radio Cymru yn 2013, roedd yr orsaf wedi bod yn chwarae caneuon Gruff Rhys.

Ond datgelodd mewn trydar nad yw’n fodlon i hynny barhau, sy’n golygu ei fod yn aberthu’r breindal o 43 ceiniog y funud er mwyn cefnogi aelodau Eos sy’n cynnwys Dafydd Iwan, Bryn Fôn ac MC Saismundo.

Neges Gruff Rhys i Radio Cymru

Gruffington Post@gruffingtonpost

“Wedi gofyn i radio Cymru yn garedig i beidio chwarae fy nghaneuon yn ystod trafodaethau BBC/Eos. Pob parch i fy nghŷd gyfansoddwyr.”