Mae dyfodol Radio Cymru yn y fantol, yn ôl Cymdeithas yr Iaith, sydd wedi ochri gyda chorff casglu breindal Eos yn yr ymgyrch dros mwy o dâl i gerddorion Cymru am chwarae eu miwsig ar y radio.
Ond mewn datganiad i golwg360 brynhawn yma, mae’r BBC wedi mynnu eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i ddatrys y sefyllfa.
Meddai’r BBC: “Mae’r mater yn cael ei ddelio â gan aelodau o Fwrdd Rheoli BBC Cymru ynghyd â’u cyd-weithwyr o adrannau hawliau a chyllid ar draws y BBC. Rydym yn rhannu dyhead EOS i ddod a’r anghydfod hyn i ben ac i gytuno ar bris teg am eu cerddoriaeth. Rydym hefyd wedi cynnig defnyddio gwasanaeth cymodi annibynnol er mwyn dod a’r anghydfod i ben. Byddai’r trafodaethau yn cael eu harwain gan rhywun a fyddai’n dderbyniol i EOS a’r BBC, gyda’r nod o geisio sicrhau asesiad teg ac annibynnol o werth ariannol yr hawliau darlledu”.
Emynau a miwsig Rocky Pedwar
Ddechrau’r wythnos wnaeth dros 300 o gerddorion dynnu’r hawl i chwarae eu caneuon oddi ar y BBC, sy’n golygu fod Radio Cymru bellach yn chwarae cymysgedd o emynau, cerddoriaeth glasurol a miwsig ffilmiau megis Rocky Pedwar.
Aeth tua pum mlynedd heibio bellach ers i freindal cerddorion ddechrau plymio, ac yn y blynyddoedd diweddar maen nhw wedi bod yn derbyn tua 85% yn llai o’r arian dalwyd yn 2007.
Cyn y streic bu’r cerddorion yn cael tua 43 ceiniog y funud bob tro roedd un o’u caneuon yn cael ei chwarae ar Radio Cymru – swm sydd wedi ei gymharu’n anffafriol gyda’r £6 y funud mae cerddorion yn ei dderbyn ar orsaf radio Asiaidd y BBC.
Yn ôl y BBC maen nhw wedi cyflwyno cynnig anrhydeddus i’r cerddorion, ond mae golwg360 ar ddeall nad ydy’r £1.50 y funud sydd ar y bwrdd yn torri’r mwstard.
Eisoes mae’r beirdd, sy’n derbyn £34 y funud am ddarlledu eu gwaith ar Radio Cymru, wedi cefnogi’r cerddorion trwy atal darlledu eu cerddi – gan achosi gohirio rhaglen Talwrn y Beirdd.
Ac mae Cymdeithas yr Iaith yn adleisio’r pryderon fod dyfodol Radio Cymru yn y fantol.
“Mae ymddygiad y BBC yn Llundain yn gywilyddus,” Alun Reynolds, swyddog adloniant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a cherddor sy’n perfformio dan yr enw JJ Sneed.
“Rydyn ni wedi cwympo oddi ar y clogwyn cerddorol – bellach mae yna fygythiad go iawn i’n unig orsaf gyflawn Gymraeg. Mae chwarae caneuon Saesneg mor aml ar yr orsaf a chwtogi ar yr oriau darlledu’n gwbl annerbyniol.
“Ry’n ni’n cytuno cant y cant gyda safiad Eos a’r cerddorion. Mae diwydiannau creadigol yn bwysig iawn i’n hiaith, ein heconomi, a’n cymunedau. Ni ddylai penaethiaid y BBC yn Llundain gael trin Cymru yn y fath modd. Wrth gwrs, mi oedd y BBC yn arfer dadlau mai bai PRS [Performing Rights Society] oedd y toriadau hyn, ond does dim modd iddynt guddio tu ôl i’r esgus ffug hwnnw bellach. Mae’u difaterwch tuag at Gymru yn gwbl amlwg i bawb.”
Y Gymdeithas yn gweithredu?
Yn ôl Cadeirydd y Gymdeithas maen nhw’n ystyried gweithredu.
“Mae hyn i gyd yn dangos unwaith eto’r angen i ddatganoli darlledu i Gymru,” meddai Robin Farrar.
“Mae Llywodraeth Llundain wedi gadael dyfodol ein hunig sianel deledu Gymraeg yn nwylo’r gorfforaeth ddarlledu Brydeinig hon hefyd. Tra bod y gair olaf ynghylch y materion hyn gan y penaethiaid yn Llundain, nid yw diwylliannau Cymru yn ddiogel. Rydyn ni’n trafod gydag aelodau’r Gymdeithas ar hyn o bryd pa gamau pellach yr ydym am eu cymryd.”