Erin Roberts yng Nghwm yr Eglwys
Y llynedd oedd yr ail flwyddyn wlypaf yn y Deyrnas Unedig ers dechrau cofnodi yn 1910, medd y Swyddfa Dywydd heddiw.
Profodd Lloegr ei blwyddyn wlypaf erioed tra yng Nghymru 2012 oedd y drydedd flwyddyn wlypaf ers dechrau cofnodi.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi dweud fod tywydd gwlyb yn fwy cyffredin bellach, gyda phedair o’r pum blwyddyn wlypaf yn y Deyrnas Unedig ers 1910 yn digwydd ers 2000.
Y Tywydd: O Ddrwg i Waeth?
Mae un o gyflwynwyr tywydd S4C, Erin Roberts, yn edrych ar batrwm y tywydd mewn rhaglen heno ar S4C o’r enw Y Tywydd: O Ddrwg i Waeth?
Mae hi’n cytuno fod y tywydd wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf.
“Dwi’n meddwl bod pawb, yn gyflwynydd tywydd ai peidio, yn gweld bod rhywbeth wedi bod yn wahanol ym mhatrymau’r tywydd dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai Erin Roberts, sy’n cyflwyno’r Tywydd ar S4C ers dros wyth mlynedd bellach.
“Ar Y Tywydd: O Ddrwg i Waeth? fe fyddwn ni’n trio gweld os mai eithriad oedd y flwyddyn 2012, ynteu ydy hyn yn rhan o batrwm ehangach.
“Fe fyddwn ni’n siarad â nifer o arbenigwyr ar y rhaglen er mwyn trio cael darlun mor gyflawn a chywir â phosib o’r hyn sy’n mynd ymlaen yn y systemau tywydd yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a’r byd”, meddai Erin Roberts.
Yn ymddangos ar y rhaglen fydd Dr Siwan Davies o Brifysgol Abertawe sydd wedi bod yn ymchwilio i’r cynnydd mewn carbon yn yr iâ yn yr Antarctig, Dr Hywel Griffiths o Brifysgol Aberystwyth sy’n arbenigo mewn afonydd, a Meic Davies o Asiantaeth yr Amgylchedd.
‘Crefftwyr dal yn adfer tai yn Nhalybont’
Ar y rhaglen fe fydd Erin Roberts yn siarad â rhai sydd wedi dioddef yn sgil tywydd gwael 2012.
“Pan mae’r trychinebau hyn yn digwydd maen nhw yn y newyddion am ddiwrnod neu ddau ond wedyn mae pawb yn anghofio, heblaw am y rhai sydd wedi cael eu heffeithio,” meddai Erin Roberts.
“Rydym ni wedi ffilmio yn Nhalybont yn ddiweddar ac roedd lorïau crefftwyr lleol dal yna yn gweithio ar y gwaith o adfer y tai ers y llifogydd ym mis Mehefin.
“Mae’n holl bwysig cysidro hyn oll mewn cyd-destun byd-eang. Mae’n byd ni’n cynhesu felly mae’n mynd i fod yn fyd gwlypach, ond mae’n rhaid edrych tu hwnt i Gymru hefyd; tamaid bach yn y peiriant tywydd ydy Cymru.”