Fe fydd darllediad o gyfres newydd Talwrn y Beirdd yn cael ei ohirio oherwydd yr anghydfod rhwng  BBC Cymru ac Eos dros daliadau darlledu, fe gyhoeddwyd heddiw.

Mae’r BBC ac Eos, y corff hawliau darlledu Cymraeg newydd, wedi methu â chytuno ar daliadau i gerddorion sy’n golygu nad yw Radio Cymru yn cael darlledu o blith 30,000 o ganeuon Cymraeg.

Mae nifer o feirdd yn cefnogi Eos ac wedi dweud y byddan nhw hefyd yn tynnu hawliau darlledu eu barddoniaeth yn ôl oddi wrth y BBC os na fydd cytundeb.

Fe fydd Talwrn y Beirdd yn cael ei ohirio nes y bydd cytundeb gydag Eos.

Mae cerddoriaeth Saesneg a chlasurol yn cael ei darlledu ar Radio Cymru i lenwi’r bwlch ar hyn o bryd ac mae disgwyl i’r trafodaethau barhau wythnos nesaf.

‘Hunanddinistriol’

Mewn datganiad dywedodd y bardd Myrddin ap Dafydd bod penderfyniad Radio Cymru i ddarlledu yn Saesneg a chwtogi ei horiau yn hytrach na tharo bargen gydag Eos yn “hunanddinistriol ac yn benderfyniad a all arwain at ddileu radio Cymru yn y dyfodol gan nad oes angen dwy orsaf genedlaethol sy’n darlledu yn Saesneg yng Nghymru.

“Gan fod dyfodol Radio Cymru yn y fantol, mae’n rheidrwydd arnom fel beirdd, sgwenwyr a chyhoeddwyr i roi pwysau ar arweinwyr y BBC yng Nghymru i wrthsefyll pwysau o’r BBC yn Llundain a mynnu mwy o adnoddau er mwyn setlo’r drafodaeth gydag Eos yn deg ac yn deilwng.”

Ychwanegodd: “Ni all y sefyllfa hon barhau. Os bydd beirdd, sgwenwyr a chyhoeddwyr Cymraeg yn tynnu eu hawliau darlledu yn ôl oddi wrth y BBC, ni fydd gan Radio Cymru hawl i ddarlledu y rhan fwyaf o gystadlaethau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mhenfro eleni, Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Ninbych na’r Ŵyl Cerdd Dant ym Mhontrhydfendigaid. Bydd hefyd yn effeithio ar raglenni drama, celfyddydol a Thalwrn y Beirdd.”