Mae dau ddyn wedi cael eu harestio gan dditectifs sy’n ymchwilio i honiadau o gam-drin yn erbyn Jimmy Savile, meddai Scotland Yard.

Cafodd dyn 53 ei arestio yn Hampshire tua 8yb bore ma a dyn 59 oed yng ngorllewin Llundain tua hanner dydd. Mae’r ddau wedi eu harestio ar amheuaeth o droseddau rhyw.

Nid yw’r honiadau yn gysylltiedig yn uniongyrchol a Savile, meddai’r heddlu.

Mae Scotland Yard yn cynnal ymchwiliad i honiadau o gam-drin rhywiol yn erbyn y cyn gyflwynydd teledu a DJ a nifer o enwau amlwg eraill.