Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am dystion yn dilyn ymosodiad ar ddyn 29 oed yng Nghaergybi neithiwr.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad y tu allan i dafarn yr Albert Vaults yn Heol Stanley tua 11.20yh ar Ddydd Calan.
Cafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau i’w wyneb.
Yn fuan wedyn cafodd dau ddyn lleol 20 a 24 oed eu harestio. Maen nhw’n cael eu cadw yn y ddalfa.
Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd i gysylltu â nhw.
Dywedodd y swyddog sy’n ymchwilio i’r ymosodiad, PC Howell Owens: “Roedd yn ddigwyddiad cas iawn ac mae’r dioddefwr yn parhau yn yr ysbyty a bydd yn rhaid iddo gael llawdriniaeth ar ei wyneb.
“Hoffwn ni glywed gan unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd a oedd efallai wedi gweld yr ymosodiad neu’r hyn a arweiniodd at yr ymosodiad, er mwyn i ni greu darlun llawn o’r hyn ddigwyddodd.”