Mae timau arbenigol yn chwilio afon mewn ymgais i ddod o hyd i ddyn a ddiflannodd ar ôl parti Nadolig yn Essex.

Nid yw Ed Gillespie, 38,  wedi cael ei weld ers iddo adael y parti yng ngwesty’r Roydon Marina ger Harlow yn ystod oriau man 22 Rhagfyr.

Roedd yn gweithio i gwmni Bureau Veritas ac roedd ei deulu wedi dweud wrth yr heddlu ei fod ar goll ar ôl iddo fethu a dychwelyd adref.

Dywedodd y Prif Arolygydd Nick Lee eu bod yn “hynod o bryderus” am ddiogelwch Ed Gillespie.

“Roedd wedi bod ym mharti’r cwmni yn y gwesty ac roedd disgwyl iddo aros dros nos yno cyn gadael bore dydd Sadwrn.

“Mae ei gar a’i eiddo yn dal yn y gwesty ond does dim son am Mr Gillespie.

“Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un a allai fod wedi ei weld, o bosib yn cerdded tu allan i’r gwesty yn ystod oriau man bore dydd Sadwrn.”

Mae timau o Heddlu Essex wedi treulio’r wythnos yn chwilio ar hyd glannau’r Afon Stort am unrhyw arwydd ohono, ond mae lefel uchel y dŵr wedi amharu ar eu hymdrechion.

Roedd Ed Gillespie yn gwisgo jîns glas, top glas a llwyd a trainers gwyrdd pan gafodd ei weld y tro olaf.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu yn Loughton ar 101.