Mae’r heddlu yng Ngwlad Thai wedi arestio dyn ar ôl i Brydeiniwr gael ei saethu’n farw mewn parti ar Nos Galan.
Mae’n debyg bod Stephen Ashton, 22, wedi cael ei saethu yn ystod ffrae rhwng grŵp o gangiau wrth iddo ddawnsio gyda ffrindiau yn ynys Koh Phangan.
Dywed yr heddlu eu bod wedi arestio dyn 26 oed o Wlad Thai.