Yr Arlywydd Barack Obama
Yn Washington mae arweinwyr gwleidyddol wedi dod i gytundeb ar yr unfed awr ar ddeg er mwyn osgoi’r “dibyn ariannol”.
Fe fyddai wedi golygu bod cynnydd mewn trethi i filiynau o bobl a thoriadau mewn gwariant cyhoeddus yn dod i rym.
Daeth y cytundeb oriau’n unig cyn i’r marchnadoedd arian ail-agor ar ôl gwyliau’r Flwyddyn Newydd.
Mae’r bleidlais yn Nhy’r Cynrychiolwyr yn fuddugoliaeth i’r Arlywydd Barack Obama oedd wedi galw am gynnydd mewn trethi i’r cyfoethog iawn.
Ar ôl y bleidlais fe gyhoeddodd Barack Obama yn y Tŷ Gwyn y byddai’n codi trethi i 2% o bobl gyfoethoga’r wlad, tra’n osgoi codi trethi i filiynau o bobl dosbarth canol a fyddai wedi golygu bod yr economi yn llithro’n ôl i ddirwasgiad.
Mae’r marchnadoedd arian yn Asia wedi ymateb yn ffafriol i’r cytundeb.