Torpoint (Llun: Lewis Clarke)
Mae’r chwilio yn parhau am lanc a neidiodd o fferi i mewn i afon yng Nghernyw.

Roedd Jordan Cobb, 16, wedi cael ei weld yn neidio i’r afon Tamar ger Torpoint.

Cafodd Gwylwyr y Glannau Brixham neges frys oddi wrth y cwch fferi am 9.15 neithiwr yn dweud fod dyn wedi disgyn i’r dŵr ger y llithrfa yn Torpoint.

Mae’r fferi yn cludo ceir a theithwyr ar draws aber y Tamar rhwng Devonport yn Nyfnaint a Torpoint yng Nghernyw, ac mae’r heddlu, Gwylwyr a Glannau a’r RNLI wedi bod yn chwilio am y llanc ar ôl iddo fethu ag ail-ymddangos.

Mae Heddlu Dyfnaint a Chernyw yn apelio am wybodaeth bellach.

“Rydym ni’n ymdrin â Jordan fel achos peryg-uchel o berson ar goll,” meddai’r Prif Arolygydd Ian Drummond Smith.

“Cafodd yr afon ei chwilio’n helaeth o’r awyr a’r dŵr ond mae dal yn bosib ei fod wedi llwyddo i nofio i’r lan, a gofynnaf i unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio’r heddlu ar 101,” meddai.