Blwyddyn newydd dda i holl ddarllenwyr Golwg 360. Gobeithio gewch chi flwyddyn wrth eich bodd.

Ymhlith y pethau y gallwn ni ddisgwyl yn ystod y flwyddyn mae:

– Dadansoddi pellach am sefyllfa’r iaith Gymraeg pan fydd ystadegau Cyfrifiad 2011 ar gyfer pob cymuned yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi ar Ionawr 30.

– David Cameron yn cyhoeddi ei fwriad i gynnal refferendwm ar rôl Prydain o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

– Kate Middleton yn rhoi genedigaeth ym mis Gorffennaf yn fwyaf tebyg.

– Llai o ofyn ar bobol Cymru i fynd i’r blychau pleidleisio ar ôl dwy flynedd pan fu refferendwm ar bwerau deddfu’r Cynulliad, etholiadau i’r Cynulliad, etholiadau lleol, ac etholiadau comisiynwyr yr heddlu.

– Disgwyl i’r dadlau am annibyniaeth boethi yn yr Alban cyn y refferendwm yn 2014.

– Etholiadau yn yr Almaen yn yr hydref pan fydd Angela Merkel yn anelu at ddod yn Ganghellor am y trydydd tro.

Caerdydd yn ennill dyrchafiad?

Bydd hi’n flwyddyn lawn i ddilynwyr dwy gamp fwyaf Cymru.

Ym mhêl-droed bydd Caerdydd yn gobeithio ennill dyrchafiad i uwch-gynghrair Lloegr, tra bydd Abertawe yn anelu at orffen yn hanner uchaf yr uwch-gynghrair. Gallwn edrych ymlaen wedyn at ddwy gêm flasus rhwng y ddau glwb yn ystod 2013-14.

Bydd Cymru yn parhau â gemau rhagbrofol Rio 2014, heb fawr o obaith bellach o fynd i’r bencampwriaeth ond â Chris Coleman yn dyheu at ychwanegu at yr un fuddugoliaeth sydd ganddo – dros yr Alban – ers dod yn hyfforddwr ei wlad.

A bydd digonedd o rygbi: Cymru yn ceisio dal gafael ar dlws y Chwe Gwlad, y Llewod yn mynd i Awstralia ym mis Mehefin gyda phrif hyfforddwr Cymru Warren Gatland wrth y llyw, a Chymru yn teithio i Siapan gyda Robin McBryde yn hyfforddwr.