Y Prif Weinidog David Cameron
Mae un o uwch-swyddogion yr Undeb Ewropeaidd wedi rhybuddio bod agwedd y Prif Weinidog David Cameron at Ewrop yn fygythiad i gyfraith a threfn ym Mhrydain.
Yn ôl Viviane Reding, yr is-lywydd o’r Comisiwn Ewropeaidd sy’n gyfrifol am gyfiawnder, byddai mabwysiadu polisi David Cameron o eithrio o fesurau cyfraith a threfn Ewrop yn rhoi rhwydd hynt i bedoffiliaid a throseddwyr.
Roedd yn ymateb i sylw gan y Prif Weinidog pan ddywedodd y byddai’r Llywodraeth yn eithrio o’r mesurau hyn, sy’n cynnwys y Warant Arestio Ewropeaidd.
Yn ôl Viviane Reding, byddai’n “wallgof” ailgipio pwerau ar droseddu a phlismona.
“Oes arnoch chi eisiau troseddwyr a phedoffiliaid yn rhedeg yn rhydd ar y strydoedd? A yw hynny o ddifrif er budd i Brydain?” gofynnodd.
Pwysau
Mae David Cameron o dan bwysau aelodau gwrth-Ewropeaidd ei blaid i lacio clymau Prydain â’r Undeb Ewropeaidd wrth i aelodau parth yr Ewro symud tuag at fwy o integreiddio. Mae disgwyl iddo gyhoeddi o fewn yr wythnosau nesaf ei fod yn fodlon cynnal refferendwm ar berthynas newydd rhwng Llundain a Brwsel.
Ond mae Vivane Reding yn rhybuddio na fydd yr Undeb Ewropeaidd yn caniatáu i Brydain ailgipio rhai pwerau fel y mynno.
“Rhaid ichi benderfynu, naill ai rydych chi’n perthyn i’r Undeb Ewropeaidd neu dydych chi ddim,” meddai. “Does dim dewis a dethol fel y mynnoch, ac ni ellir troi’r cloc yn ôl.”