Ellie Simmonds, un o'r athletwyr sydd wedi cael ei hanrhydeddu
Mae bron bob un o brif anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines eleni wedi mynd i athletwyr tîm Prydain yn y Gemau Olympaidd.

Mae enillydd y Tour de France, Bradley Wiggins, a ychwanegodd at ei lwyddiant gyda medal aur yn y Gemau Olympaidd, a’r hwyliwr Ben Ainslie a enillodd bedair medal aur, ill dau wedi cael eu gwneud yn Syr. Dau arall sydd wedi derbyn yr un anrhydedd yw Dave Brailsford o Ddeiniolen (gweler stori ar wahân), cyfarwyddwr tîm seiclo Prydain, a David Tanner, cyfarwyddwr y tîm rhwyfo.

Mae’r para-seiclwr Sarah Storey hefyd wedi cael ei urddo’n Fonesig.

Mae Jessica Ennis a Mo Farrar, dau o enillwyr amlycaf a mwyaf poblogaidd Gemau Olympaidd Llundain wedi cael CBE. Ymysg eraill i dderbyn yr un anrhydedd mae’r rhwyfwraig Katherine Grainger, yr athletwr cadair olwyn David Weir a’r seiclwraig Victoria Pendleton.

Cafodd y nofwraig baralympaidd Ellie Simmonds, sy’n byw yn Abertawe, ei hanrhydeddu ag OBE. Mae’r chwaraewr tennis Andy Murray, y pâr o seiclwyr Laura Trott a Jason Kenny, a’r marchogion Sophie Christiansen a Charlotte Dujardin hefyd wedi cael OBE.

Yn ogystal, mae nifer mawr o fabolgampwyr eraill wedi cael MBE.