Atomfa Fukishima wedi'r gyflafan (AYNRh)
Mae prif weinidog newydd Japan wedi ymweld ag atomfa Dai-Ichi Fukushima, safle’r ddamwain niwclear waethaf ers trychineb Chernobyl yn 1986.
Bwriad llywodraeth plaid Shinzo Abe yw bwriadu treulio 10 mlynedd yn astudio pa fathau o ddulliau o gynhyrchu ynni a fyddai fwyaf addas i Japan.
Yn dilyn daeargryn a tsunami enfawr ar Fawrth 11, 2011, cafodd rhannau o’r atomfa ei difrodi gan ddŵr gan achosi ymbelydredd a orfododd ddegau o filoedd o bobl i ffoi o’u cartrefi.
Yn dilyn y trychineb, fe fu protestiadau enfawr yn erbyn ynni niwclear, ac roedd y llywodraeth ar y pryd wedi cytuno i beidio ag adeiladu adweithyddion newydd.
Mae’r Prif Weinidog newydd, fodd bynnag, wedi dweud y gallai ailystyried y penderfyniad hwnnw.