Simon Thomas
Mae cael gwaraed ar asbestos o ysgolion yng Nghymru’n debygol o gostio cannoedd o filiynau o bunnoedd i’r cynghorau sir.

O ganlyniad i gais Rhyddid Gwybodaeth, mae Plaid Cymru wedi cael manylion holl ysgolion Cymru lle mae deunydd asbestos yn bresennol.

Amcangyfrifodd Sir Ddinbych y bydd yn costio rhwng £6m a £8m i symud asbestos o’i ysgolion tra bod Sir Gaerfyrddin yn rhagweld y buasai symud asbestos yn costio £2.587m gyda £3m arall i unioni pethau wedyn. Ni roddodd cynghorau eraill amcangyfrifon.

Dywedodd cyngor Abertawe eu bod yn rhagdybio fod cynifer â 99% o’i 122 ysgol yn cynnwys asbestos.

A datgelwyd fod cyngor Caerdydd wedi talu mwy na £700,000 mewn taliadau a chostau dros y ddegawd ddiwethaf mewn hawliadau yn ymwneud ag asbestos. Yr oedd un taliad unigol gan Gyngor Sir y Fflint yn fwy na £250,000.

Cofrestr asbestos

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Addysg yn y Cynulliad, Simon Thomas, sy’n aelod o’r grŵp amlbleidiol ar asbestos a fydd yn cyfarfod gyntaf bythefnos i ddydd Mawrth, y bydd yn pwyso am gofrestr asbestos i bob ysgol yng Nghymru.

“Dylai pob ysgol yng Nghymru fod wedi cael arolwg asbestos priodol, a dylent oll fod â Chofrestr Asbestos,” meddai.

“Dylai’r ddogfen hon fod ar gael yn rhwydd, a chael ei chyfoesi pan fo’r awdurdodau monitro yn cynghori hynny. Bydd y pennaeth wedyn yn cael gwybod am unrhyw asbestos sy’n bresennol, fydd yn cael ei selio, ei farcio a’i labelu felly.

“Ers 1996, ni ddylai unrhyw ysgol newydd fod wedi cael ei chodi gydag unrhyw fath o asbestos. Fodd bynnag, nid yw hyn yn dweud na allai fod yno, os yw gwaith trwsio wedi ei wneud â hen ddefnydd, er enghraifft.

“Mae’n hollol anymarferol symud yr holl asbestos o ysgolion yng Nghymru neu yn unman arall, gan y byddai’n llythrennol yn costio ffortiwn, fel y dengys y ffigyrau a ddatgelwyd i Blaid Cymru. Er mwyn diogelwch, rhaid i ni asesu’r risg os caiff ei ddarganfod; ei selio, labelu, cofrestru a monitro (fel sy’n ofynnol dan y gyfraith) er mwyn gofalu nad oes risg. Dylai gael ei symud yn unig pan fo’n anymarferol ei selio i mewn. Byddai ei symud pan fo wedi ei selio ac mewn cyflwr sefydlog mewn gwirionedd yn ei wneud yn fwy peryglus o lawer.”