Llifogydd yng Ngwynedd fis yn ôl - rhybudd i'r cyhoedd fod ar eu gwyliadwriaeth am ragor
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn rhybuddio’r cyhoedd i fod ar eu gwyliadwriaeth am fwy o lifogydd dros y dyddiau nesaf.

Mae 46 o rybuddion llifogydd mewn grym yng Nghymru ar ôl oriau o law trwm ddoe a neithiwr.

Mae rhybuddion llawn mewn grym mewn pum ardal – Dyffyn Conwy, Dyffryn Dyfi, ardal Dinbych y Pysgod ac ardaloedd Abergwili a Pontargothi yn Sir Gaerfyrddin.

Ar ben hyn mae 41 o’r rhybuddion llai difrifol – y rhybuddion gwyliadwriaeth – mewn grym mewn ardalaloedd ar hyd a lled Cymru.

Yr un yw’r stori yn Lloegr hefyd, lle mae 76 o rybuddion llawn, a 189 o rybuddion gwyladwriaeth mewn grym.

Gyda rhagolygon am ragor o law yfory, dywed llefarydd ar ran Asiantaeth yr Amgylchedd bod y peryglon o lifogydd yn gwaethygu ar gyfer dydd Llun wrth i ddŵr daear cynyddol barhau i achosi problemau.