Mae Dave Brailsford, y Cymro Cymraeg o bentre’ Deiniolen yng Ngwynedd, wedi ei wneud yn Syr.
Cafodd yr hyfforddwr seiclo 48 oed ei addysg yn Ysgol Gwaun Gynfi ac Ysgol Brynrefail, a bu’n golgeidwad i dimau ieuenctid Deiniolen.
Daeth i amlygrwydd wedi llwyddiant tîm seiclo Prydain yn yr Olympics ac mae’n cael ei gydnabod yn un o hyfforddwyr gorau’r byd mewn unrhyw faes o chwaraeon.
Eleni oedd ei flwyddyn orau eto wrth iddo arwain Tîm Sky yn y Tour de France gafodd ei ennill gan Bradley Wiggins, ac yna fe enillodd Tîm Prydain wyth medal aur yn yr Olympics.
“Nid ydych yn cael eich gwneud yn ‘Syr’ am wneud rhywbeth dros nos,” meddai Bradley Wiggins yn talu teyrnged i’w fentor.
“Mi welodd pawb beth wnaeth o yn yr Haf gyda’r Tour ac yna’r Olympics, ac yn Beijing [2008]. Ond roedd o yno yn Athens [2004] ac yn Sydney [2000] felly mae’n flynyddoedd a blynyddoedd o waith caled a llwyddiant. Mae’n ei lawn haeddu.”